Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Sut mae eich gweithlu yn teimlo? Pa effaith gafodd y 'newid i weithio ar-lein' ar ôl COVID-19, a'r ymarfer a phrosesau sydd wedi dilyn, ar lesiant staff? Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r hyn a olygir gan lesiant yn y gweithle mewn byd gweithio hybrid - pwy sydd â'r cyfrifoldeb ohono, yr heriau a wynebir wrth ei greu a'i gynnal, a'r buddiannau i'ch sefydliad. Ydy eich sefydliad yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal? Caiff Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ei wawdio yn aml fel 'cywirdeb gwleidyddol wedi mynd i'r pen' neu fod blwch gofynion cyfreithiol yn cael ei lenwi gyda thic, ond mae'r cwrs hwn yn pwysleisio'r rôl allweddol sydd ganddo i gyrraedd diwylliant o lesiant, ac yn eich gwahodd chi i'w ystyried fel buddsoddiad yn ased pwysicaf eich sefydliad: y bobl sy'n gweithio yno.Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.