Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Sut mae'r byd hybrid yn gwneud i chi, fel arweinydd, deimlo? Ydych chi'n teimlo nad oes gennych chi reolaeth? Ydych chi'n ymddiried yn eich tîm a'ch gweithlu i gwblhau'r swydd, neu ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus o'u cael nhw o fewn golwg mewn swyddfa? Mae gweithio hybrid yma i aros, a nawr yn fwy nag erioed, bydd angen i chi ddeall sut mae eich cyflogeion yn teimlo am hyn – a sut rydych chi'n teimlo hefyd. Os cefnogir gweithio hybrid gan sefydliad ar bob lefel gall greu newid gwirioneddol a chadarnhaol i'r gweithlu. Ond, mae angen arweinwyr i fabwysiadu cynhwysiant a chreu cysylltiadau â'u gweithlu hybrid. Mae'n gofyn am ymddiriedaeth. Mae'n gofyn am empathi. Mae angen diogelwch seicolegol arno. Mae angen atebolrwydd clir arno. Mae angen arweinwyr i'w gysylltu â'r gweithlu a'i ddyneiddio. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi adfyfyrio ar bwy ydych chi fel arweinydd hybrid a sut rydych chi eisiau datblygu. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i ddangos empathi â'ch gweithlu a sut i addasu eich sgiliau cyfathrebu wrth weithio yn y swyddfa ac wrth weithio o bell. Bydd yn eich annog i ddechrau meddwl sut y gallwch ysgogi eich gweithle i ffynnu yn y byd hybrid newydd hwn a beth y gallwch chi ei wneud i'w helpu i ddatblygu a theimlo'n ddiogel.Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.