Class Central is learner-supported. When you buy through links on our site, we may earn an affiliate commission.

OpenLearn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

via OpenLearn

Overview

Gall dechrau mewn gweithle newydd – p'un ai dyna eich swydd gyntaf 'go iawn' ar ôl gorffen eich addysg, neu'r cam nesaf yn natblygiad eich gyrfa – fod yn gyffrous ac yn frawychus. Os mai sefydliad hybrid ydyw, a bod eich diwrnod cyntaf mewn lleoliad anghysbell yn hytrach na gweithle ffisegol, gall hynny fod hyd yn oed yn fwy dryslyd. Nod y cwrs hwn yw eich helpu i lywio eich diwylliant sefydliadol newydd, meithrin cydberthnasau gyda'ch cydweithwyr mewn amgylchedd hybrid, deall disgwyliadau eich cyflogwr a mynegi eich nodau i fodloni'r disgwyliadau hynny neu hyd yn oed ragori arnynt. Byddwch yn cael eich annog i fyfyrio ar eich sgiliau a'ch profiadau presennol – yn y gwaith a'r tu allan iddo – ac i ystyried sut y gellir addasu'r rhain a'u datblygu yn eich gweithle hybrid newydd. Bydd llawer ohonoch wedi arfer rhannu ac ymgysylltu â phobl eraill ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, felly sut gallwch drosi'r arferion hyn i gydweithio yn y gweithle? Ceir ffocws ar alluoedd digidol a magu hyder mewn technoleg, yn ogystal ag awgrymiadau ar reoli eich llesiant pan fyddwch yn gweithio o bell i'ch galluogi i ffynnu yn y gwaith. Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Syllabus

  • Cyflwyniad
  • Deilliannau Dysgu
  • 1 Blaenoriaethau sy’n newid
  • 1 Blaenoriaethau sy’n newid
  • 1.1 Addasu i newid
  • 2 Gwneud cais am swydd yn y gweithle hybrid
  • 2 Gwneud cais am swydd yn y gweithle hybrid
  • 2.1 Datblygu a dogfennu eich sgiliau
  • 2.2 CVs Rhithwir
  • 2.3 Cyfweliadau ar-lein
  • 2.4 Dysgu o bob ymgais
  • 2.5 Cyn derbyn swydd
  • 3 Paratoi i ddechrau eich swydd newydd
  • 3 Paratoi i ddechrau eich swydd newydd
  • 3.1 Eich swyddfa gartref
  • 3.2 Ansicrwydd gwaith
  • 3.3 Yr offer iawn
  • 4 Diwylliant sefydliadol
  • 4 Diwylliant sefydliadol
  • 5 Cyflawni nodau
  • 5 Cyflawni nodau
  • 6 Sgiliau digidol
  • 6 Sgiliau digidol
  • 7 Cydweithio rhithiwir yn y gweithle
  • 7 Cydweithio rhithiwir yn y gweithle
  • 8 Rheoli eich lles wrth weithio o bell
  • 8 Rheoli eich lles wrth weithio o bell
  • 8.1 Cyfarfodydd rhith-wir
  • 8.2 Recognising when you need support
  • Casgliad
  • Cyfeiriadau
  • Cydnabyddiaethau

Reviews

Start your review of Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Never Stop Learning.

Get personalized course recommendations, track subjects and courses with reminders, and more.

Someone learning on their laptop while sitting on the floor.