Class Central is learner-supported. When you buy through links on our site, we may earn an affiliate commission.

OpenLearn

Ewch â’ch addysgu ar-lein

via OpenLearn

Overview

Mae dysgu ar-lein wedi datblygu’n gyflym ac fe’i gwelir bellach ym mhob maes addysg, o ysgolion i hyfforddi sgiliau. Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu trwy gyrsiau ar-lein. Hyd yn oed pan addysgir ‘wyneb yn wyneb’ yn bennaf, mae adnoddau a rhyngweithio ar-lein wedi dod yn rhan allweddol o’r profiad dysgu. Ond mae addysgu ar-lein yn wahanol. Os ydych yn gweithio ym maes addysg neu hyfforddiant ar unrhyw lefel, bydd angen i chi ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd i wneud y penderfyniadau iawn, manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, a goresgyn heriau cyffredin.Mae bron 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Brifysgol Agored dreialu ein cwrs cwbl ar-lein cyntaf gyda’n myfyrwyr. Rydym bellach yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran ymchwilio i addysg ar-lein a’i ddarparu. Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, rhannwn y wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i addysgu’n effeithiol ar-lein. Yn Ewch â’ch addysgu ar-lein, byddwch yn clywed am brofiadau addysgwyr go iawn, yn cael eich cyflwyno i waith ymchwil blaengar, ac yn deall y syniadau a’r adnoddau sy’n ffurfio’r ffordd rydym yn addysgu ac yn dysgu ar-lein. Byddwch hefyd yn dysgu dulliau defnyddiol a fydd yn eich helpu i brofi’r syniadau newydd hyn yn eich ymarfer eich hun. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad hyn yn Gymraeg.Bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol Prifysgol Agored. Nid yw'r bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maen nhw'n ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch reoli'ch bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogi OpenLearn - sydd hefyd yn arddangos eich bathodyn Prifysgol Agored.Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dewisol ar ddechrau cwrs  357361. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi'ch adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella yn y dyfodol, yn ein harolwg dewisol ar ddiwedd y cwrs 358362. Bydd cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol, ac ni fyddwn yn trosglwyddo'ch manylion i eraill. Mae'r cwrs hwn yn cael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Safonau CPD  359363. Gellir ei ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ond nid yw'n ddysgu achrededig. Ni allwn ddarparu gwasanaethau dilysu dysgwyr ffurfiol ar gyfer cymryd rhan yn ein cyrsiau ar-lein agored, a ddarperir yn rhydd gan y Brifysgol Agored fel CPD hunangyfeiriedig.Gall unrhyw un sy'n dymuno darparu tystiolaeth o'u cofrestriad ar y cwrs hwn wneud hynny trwy rannu eu Cofnod Gweithgaredd ar eu Proffil OpenLearn, sydd ar gael cyn cwblhau'r cwrs ac ennill y Datganiad Cyfranogiad. This course is accredited by the CPD Standards Office. It can be used to provide evidence of continuing professional development and on successful completion of the course you will be awarded 24 CPD points. Evidence of your CPD achievement is provided on the free Statement of Participation awarded on completion.Anyone wishing to provide evidence of their enrolment on this course is able to do so by sharing their Activity Record on their OpenLearn Profile, which is available before completion of the course and earning of the Statement of Participation.  

Syllabus

  • Cyflwyniad a chanllawiau
  • Cyflwyniad a chanllawiau
  • Beth yw cwrs â bathodyn?
  • Sut i gael bathodyn
  • Cydnabyddiaeth
  • Wythnos1Wythnos 1: Mae addysgu ar-lein yn wahanol
  • Cyflwyniad
  • 1 Dulliau addysgu cydamserol ac anghydamserol
  • 1.1 Myfyrdodau gan yr athro/athrawes
  • 1.2 Defnyddio cyfleoedd addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol
  • 1.3 Rhyngweithio â myfyrwyr
  • 1.4 Cymhelliad, cymorth a disgyblaeth
  • 1.5 Datblygu sgiliau a hyder
  • 2 Dysgu cyfunol
  • 2.1 Ystafelloedd dosbarth gwrthdro
  • 3 Anhysbysrwydd dysgwyr, sianeli cefn a rhyngweithio cymdeithasol
  • 4 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • Cyfeiriadau
  • Cydnabyddiaethau
  • Wythnos2Wythnos 2: Darganfod y cysylltiadau: egwyddorion a damcaniaethau ar gyfer deall offer digidol
  • Cyflwyniad
  • 1 Egwyddorion addysgu ar-lein effeithiol
  • 1.1 Crëwch amserlen
  • 1.2 Rhowch wybodaeth i’r dysgwyr
  • 1.3 Datblygwch ymdeimlad o gymuned
  • 1.4 Gofynnwch am adborth
  • 1.5 Cydnabyddwch amrywiaeth
  • 2 Sut gall damcaniaethau addysgol fynd helpu i ewch â’ch addysgu ar-lein?
  • 2.1 Ymddygiadaeth
  • 2.2 Gwybyddoliaeth
  • 2.3 Lluniadaeth
  • 2.4 Cysylltiadaeth
  • 3 Technolegau digidol ar gyfer addysgu ar-lein
  • 3.1 Rheoli cwrs
  • 3.2 Adnoddau creu cynnwys
  • 3.3 Rhwydweithio ac adnoddau cydweithio
  • 3.4 Gwella adnoddau a deunyddiau rydych eisoes yn eu defnyddio
  • 4 Gwrthrychau dysgu
  • 5 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • References
  • Acknowledgements
  • Wythnos3Wythnos 3: Dewis technolegau: beth i edrych amdano a sut I ddewis
  • Cyflwyniad
  • 1 Technolegau ar gyfer creu cynnwys
  • 1.1 Addasu ac ymestyn cyflwyniadau sleidiau
  • 1.2 Sgrinledu
  • 1.3 Recordiad fideo technoleg isel, cymhlethdod isel
  • 1.4 Trin delweddau
  • 1.5 Adnoddau rhyngweithiol bach sy’n cael effaith fawr
  • 1.6 Adnoddau datblygu e-ddysgu
  • 1.7 Platfformau Gwegynadledda
  • 1.8 Ffrydiau RSS a chydgasglwyr
  • 1.9 Canfod llên-ladrad
  • 2 Personoli gydag adnoddau ar gyfer dysgu
  • 2.1 Gwasanaethu cynulleidfaoedd amrywiol
  • 2.2 Rhoi rheolaeth i’r dysgwyr
  • 3 Technolegau ar gyfer cyfathrebu cymdeithasol
  • 3.1 Technolegau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo cymuned
  • 3.2 Technolegau cymdeithasol i wella presenoldeb
  • 4 Delio â newid yn y sector technoleg
  • 5 Sut i ddewis
  • 5.1 Cysylltu deilliannau dysgu, gweithgareddau ac adnoddau
  • 6 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • References
  • Acknowledgements
  • Wythnos4Wythnos 4: Buddion rhwydweithiau cymorth a sut i’w datblygu
  • Cyflwyniad
  • 1 Buddion ymgysylltu â rhwydweithiau ar-lein
  • 1.1 Rhannu syniadau
  • 1.2 Datblygu partneriaethau a chymunedau
  • 1.3 Rhannu gwybodaeth
  • 1.4 Datblygiad proffesiynol
  • 1.5 Creu cysylltiadau
  • 2 Cymunedau ymarfer a thywydd rhwydwaith
  • 2.1 Cymunedau ymarfer
  • 2.2 Tywydd rhwydwaith
  • 3 Datblygu eich rhwydweithiau
  • 4 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • References
  • Acknowledgements
  • Wythnos5Wythnos 5: Canfod, defnyddio a rhannu deunyddiau addysgol ar-lein
  • Cyflwyniad
  • 1 Adnoddau Addysgol Agored
  • 1.1 Beth yw Adnoddau Addysgol Agored?
  • 1.2 Pam y dylwn i fod â diddordeb mewn OER?
  • 2 Gwerthuso adnoddau ar-lein o ran trwyddedu ac ansawdd
  • 2.1 Hawlfraint a rôl trwyddedau Creative Commons
  • 2.2 Gwerthuso adnoddau agored
  • 2.3 Trwyddedu eich deunyddiau eich hun
  • 3 Dod o hyd i adnoddau ar-lein
  • 3.1 Storfeydd OER
  • 4 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • References
  • Acknowledgements
  • Wythnos6Wythnos 6: Cefnogi dyswwyr â gwahanol anghenion – hygyrchedd mewn addysgu ar-lein
  • Cyflwyniad
  • 1 Beth yw technoleg gynorthwyol?
  • 1.1 Mathau o dechnoleg gynorthwyol
  • 2 Gwneud eich deunyddiau ar-lein yn hygyrch
  • 2.1 Sicrhau eglurder o ran llywio a golwg
  • 2.2 Gwneud elfennau gweledol yn hygyrch
  • 2.3 Gwneud elfennau clywedol yn hygyrch
  • 2.4 Gwneud elfennau sy’n cael eu harddangos yn addasadwy
  • 2.5 Sicrhau y gellir cwblhau tasgau heb fod angen deheurwydd dwylo neu graffter gweledol
  • 3 Gwirio hygyrchedd deunyddiau
  • 4 Fformatau amgen
  • 5 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • References
  • Acknowledgements
  • Wythnos7Wythnos 7: Gwneud newid yn eich addysgu
  • Cyflwyniad
  • 1 Newid y dechnoleg neu’r addysgeg?
  • 1.1 Ymwelwyr a Phreswylwyr
  • 2 Dylunio dysgu
  • 3 Gwireddu’r newid
  • 3.1 Cyngor ac awgrymiadau da
  • 4 Dadansoddi eich ymarfer a’r cwmpas ar gyfer newid
  • 5 Cwis yr wythnos hon
  • Crynodeb
  • References
  • Acknowledgements
  • Wythnos8Wythnos 8: Gwerthuso newidiadau a gwella arfer
  • Cyflwyniad
  • 1 Dadansoddeg dysgu
  • 2 Adborth a myfyrio
  • 2.1 Ceisio adborth
  • 2.2 Deall adborth
  • 2.3 Myfyrio
  • 3 Ymchwil weithredu
  • 4 Adolygu, addasu, ailadrodd!
  • 5 Cwis Wythnos 8
  • Casgliad
  • Rhowch eich barn i ni
  • Eich nodiadau
  • References
  • Acknowledgements

Reviews

Start your review of Ewch â’ch addysgu ar-lein

Never Stop Learning.

Get personalized course recommendations, track subjects and courses with reminders, and more.

Someone learning on their laptop while sitting on the floor.