Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor aml mae angen sgiliau mathemategarnoch yn eich bywyd bob dydd? Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad iSgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn mathemateg. Mae wedi ei ddylunio i’ch ysbrydolichi i wella’ch sgiliau mathemateg ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd a aethyn angof.Bydd gweithio trwy’r enghreifftiau a gweithgareddau rhyngweithiol y cwrshwn yn eich helpu chi i redeg cartref neu symud ymlaen yn eich gyrfa, ymysgpethau eraill. Er mwyn cwblhau’r cwrs, bydd arnoch angen cyfrifiannell, llyfrnodiadau ac ysgrifbin.Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyndigidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eichdiddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr oshoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol. Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar leinar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich DatganiadCyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn.Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg 343336yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 344337 a gyda chymorth caredig Dangoor Education 345338, cangen addysgol The Exilarch’s Foundation.Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes aTracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru,Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewncydweithrediad ag Anna E. Crossland, Middlesborough College, gan ddefnyddiodeunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y NationalExtension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a West HertsCollege.