Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad byr i faes gweithio mewn tîm. Gallwchhefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn: Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr ac Addysggynhwysol: deall yr hyn a olygwn.Mae gwaith tîm yn rhan hollbwysig o’r gwaith o ddatblygu achynnal corff llywodraethu llwyddiannus. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi fyfyrioar eich profiadau eich hun o weithio mewn tîm, ystyried enghreifftiau o waithtîm mewn ysgolion, a myfyrio ar bwysigrwydd gweithio mewn tîm ac arweinyddiaethwrth adeiladu timau llwyddiannus. Yn ystod y cwrs, byddwch yn archwilioperthnasedd gweithio mewn tîm i’ch profiad fel llywodraethwr a’i swyddogaeth yneich corff llywodraethu eich hun.Mae’r Cwrs Agored Bathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddauhyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliadgan Y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliaua myfyrdodau ychwanegol a all eich helpu yn eich rôl fel llywodraethwr.