Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Mae'r cwrs hwnyn rhoi cyflwyniad byr i faes cynhwysiant addysgol. Gallwch hefyd weld ycyrsiau eraill yn y casgliad hwn Cyflwyniad i arweinyddiaeth ilywodraethwyr aGwaith tîm: cyflwyniad i lywodraethwyrysgol. Ni waeth paysgol y byddwch yn eich canfod eich hun ynddi, bydd y ffordd y mae'n ymdrin agaddysg gynhwysol yn ffactor bwysig wrth bennu diwylliant ei hamgylchedd dysguac addysgu. Dros yr ychydig oriau nesaf, cewch gyflwyniad i rai o'r egwyddoriona'r dadleuon a fydd wedi llywio'r modd y mae eich ysgol yn ymdrin âchynhwysiant. Byddwch yn ystyried safbwyntiau gwahanol ar gynhwysiant, ynbenodol y ffordd y mae modelau meddygol a chymdeithasol wedi dylanwadu ar einmeddylfryd presennol. Byddwch hefyd yn ystyried y rhwystrau i gynhwysiant, a'rgwahaniaeth rhwng integreiddio a chynnwys. Hefyd, byddwch yn ystyried rhai o'rdogfennau allweddol, er enghraifft Datganiad Salamanca a'r Cod Anghenion DysguYchwanegol, sy'n sail i'n meddylfryd presennol yn y maes hwn. Mae’r Cwrs AgoredBathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyrysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymrugyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a myfyrdodau ychwanegol a all eichhelpu yn eich rôl fel llywodraethwr.