Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Achosodd pandemig COVID-19 i sawl sefydliad orfod newid ffordd o weithio'r gweithlu, a hynny o bell, yn gyflym iawn yn 2020. Mae'r weithred o ddychwelyd i arferion gweithio mewn swyddfa cyn y pandemig wedi bod yn araf, gyda sawl sefydliad nawr yn awyddus i weithio mewn modd hyblyg. Mae gweithio hybrid, er hynny, yn cyflwyno heriau newydd sy'n gofyn am feddwl yn wahanol, polisïau newydd a newid sylweddol yn niwylliant y sefydliad.Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i archwilio strwythur, cynlluniau, amgylchedd allanol a chynaliadwyedd presennol eich sefydliad er mwyn ystyried sut i gryfhau isadeiledd eich gweithio hybrid. Byddwch yn dechrau nodi beth yw ystyr trawsnewid digidol yn y sector addysg uwch (SAU) a sut mae hyn yn cyflymu lleoliadau gwaith ar gyfer hybrid. Byddwch hefyd yn dechrau creu arferion er mwyn sicrhau eich sefydliad ar gyfer y dyfodol, ac ystyried ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol a all godi a sut i baratoi ar eu cyfer.Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.